Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg Uwch (Dynodi Darparwyr Addysg Uwch) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer dynodi darparwyr addysg uwch penodol yn sefydliadau at ddiben Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”). Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu dynodiad yn ôl ac effaith tynnu dynodiad yn ôl.

Mae adran 3 o Ddeddf 2015 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddynodi darparwyr addysg uwch penodol yn sefydliadau o dan amgylchiadau pan na fyddai’r darparwr (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad. Mae darparwr addysg uwch at ddibenion adran 3(2)(a) o Ddeddf 2015 yn un sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen.

Mae rheoliad 2 yn darparu i gais am ddynodiad fod yn ysgrifenedig. Mae’r rheoliad hefyd yn nodi’r hyn y mae rhaid i gais ei gynnwys.

Rhaid i gais am ddynodiad gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â statws elusennol yr ymgeisydd. Pan fo’r ymgeisydd yn elusen gofrestredig, rhaid i’r cais gynnwys rhif cofrestru elusen yr ymgeisydd a manylion y rheoleiddiwr elusennau y mae’r ymgeisydd wedi cofrestru ag ef. Pan na fo ymgeisydd yn elusen gofrestredig, er enghraifft oherwydd ei fod yn elusen esempt neu eithriedig, rhaid i’r cais esbonio pam nad yw cofrestriad o’r fath yn ofynnol.

Rhaid i gais hefyd gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â darparu addysg uwch yng Nghymru. Mae rheoliad 2(3) yn pennu’r materion hynny sy’n ymwneud â darparu addysg uwch yng Nghymru y mae rhaid eu cynnwys.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i gais gynnwys gydag ef gopi o unrhyw brosbectws a gyhoeddir gan yr ymgeisydd ac sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o addysg uwch yng Nghymru gan yr ymgeisydd hwnnw.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd nad yw wedi ei gofrestru â rheoleiddiwr elusennau ddarparu copi o’i ddogfen lywodraethu gyda’i gais.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch tynnu dynodiad yn ôl. Caniateir i ddynodiad gael ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru i’r darparwr o dan sylw. Rhaid i’r hysbysiad bennu’r rhesymau dros dynnu’r dynodiad yn ôl a’r dyddiad y tynnir y dynodiad yn ôl.

Wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a yw’r darparwr bellach yn peidio â dod o fewn adran 3(2) o Ddeddf 2015.

Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fo dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, fod y darpariaethau hynny yn Neddf 2015 a bennir yn y rheoliad (sy’n ymwneud â therfynau ffioedd, cydymffurfio â gofynion cyffredinol cynlluniau ffioedd a mynediad ac ansawdd yr addysg) i barhau er gwaethaf bod darparwr wedi peidio â chael ei drin fel pe bai’n sefydliad.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy.  )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg Uwch (Dynodi Darparwyr Addysg Uwch) (Cymru) 2015

Gwnaed                                                 ***

 

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 3(4) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Dynodi Darparwyr Addysg Uwch) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2015.

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;

(b)     ystyr “rheoleiddiwr elusennau” (“charity regulator”) yw’r Comisiwn Elusennau, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban neu Gomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon;

(c)     ystyr “dogfen lywodraethu” (“governing document”) yw—

                            (i)    yn achos darparwr addysg uwch sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu’r cwmni;

                          (ii)    mewn unrhyw achos arall, dogfen sy’n darparu ar gyfer cyfansoddiad y darparwr addysg uwch a’r ffordd y caiff ei redeg.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cais am ddynodiad yn sefydliad

2.(1)(1) Rhaid i gais gan ddarparwr addysg uwch([2]) (“yr ymgeisydd”) am ddynodiad o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—

(a)     enw a phrif gyfeiriad yr ymgeisydd;

(b)     unrhyw enwau eraill y mae’r ymgeisydd yn gweithredu odanynt;

(c)     gwybodaeth, gan gynnwys y materion hynny a bennir ym mharagraffau (2) a (3), sy’n ymwneud â statws elusennol yr ymgeisydd a’i ddarpariaeth o addysg uwch yng Nghymru.

(2) Rhaid i’r wybodaeth a geir mewn cais gynnwys naill ai—

(a)     rhif cofrestru elusen yr ymgeisydd ac enw a chyfeiriad rheoleiddiwr elusennau y mae’r ymgeisydd wedi ei gofrestru ag ef; neu

(b)     os nad yw’r ymgeisydd wedi ei gofrestru â rheoleiddiwr elusennau, y rheswm pam nad yw’n ofynnol iddo gofrestru â rheoleiddiwr elusennau.

(3) Rhaid i’r wybodaeth a geir mewn cais hefyd gynnwys—

(a)     disgrifiad o’r addysg uwch a ddarperir gan yr ymgeisydd yng Nghymru;

(b)     disgrifiad o’r dyfarniad y caniateir iddo gael ei roi i berson o ganlyniad i’r addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan yr ymgeisydd;

(c)     nifer y personau yng Nghymru sy’n ymgymryd â’r addysg uwch honno ar ddyddiad y cais;

(d)     yr ardal yng Nghymru lle y darperir addysg uwch;

(e)     cyfeiriad unrhyw wefan a gynhelir gan yr ymgeisydd sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o addysg uwch yng Nghymru gan yr ymgeisydd hwnnw.

3. Rhaid i gais o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 gynnwys gydag ef gopi o unrhyw brosbectws a gyhoeddir gan yr ymgeisydd sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o addysg uwch yng Nghymru gan yr ymgeisydd hwnnw.

4. Rhaid i gais o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 hefyd gynnwys gydag ef gopi o ddogfen lywodraethu’r ymgeisydd os nad yw’r ymgeisydd wedi ei gofrestru â rheoleiddiwr elusennau.

Tynnu dynodiad yn ôl

5.(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu’n ôl ddynodiad a wneir o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr addysg uwch.

(2) Rhaid i hysbysiad gynnwys—

(a)     rhesymau Gweinidogion Cymru dros dynnu’r dynodiad yn ôl; a

(b)     y dyddiad y tynnir y dynodiad yn ôl.

(3) Wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a yw’r darparwr bellach yn peidio â bod o fewn adran 3(2) o Ddeddf 2015.

Cymhwyso Deddf 2015 yn dilyn tynnu dynodiad yn ôl

6.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo dynodiad o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 wedi ei dynnu’n ôl.

(2) Mae darparwr addysg uwch i barhau i gael ei drin fel pe bai’n sefydliad at ddibenion adrannau 10 i 12, 13, 14 a 26 o Ddeddf 2015.

 

Huw Lewis 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 



([1])           2015 dccc 1.

([2])           Diffinnir addysg uwch yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.